Pêl-droediwr o Sbaen sy'n chwarae i Chelsea ac i dîm cenedlaethol Sbaen yw Fernando José Torres Sanz (ganwyd 20 Mawrth1984). Dechreuodd ei yrfa hefo Atlético Madrid. Chwaraeodd dros y tîm cyntaf yn 2001 pan oedd yn 17 oed, ac erbyn ei adawiad yn 2007, sgoriodd 75 gôl mewn 174 ymddangosiad La Liga. Ymunodd â Lerpwl yn 2007 am daliad o £26.5 miliwn, sef record y clwb. Yn ei flwyddyn gyntaf, sgoriodd 33 gôl ym mhob cystadleuaeth, a 24 yn yr Uwchgynghrair Lloegr. Daeth Torres y chwaraewr cyflymaf i sgorio 50 gôl i'r clwb wrth sgorio yn erbyn Aston Villa ym mis Rhagfyr 2009. Mae e hefyd yn chwarae dros Sbaen, a ymddangosodd gyntaf yn erbyn Portiwgal yn 2003. Rhoddodd gymorth i Sbaen ennill Pencampwriaeth Ewrop Pêl-droed 2008, gyda Torres ei hun yn rhwydo'r gôl fuddugol. Enillodd Sbaen Gwpan y Byd 2010 yn ogystal, er i Torres beidio sgorio yn y gystadleuaeth.
Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Fernando Torres', amser ymholiad: 0.00e
Mireinio'r Canlyniadau